Band Jas Ieuenctid Gwynedd & Môn
Ffurfiwyd y Band tua naw mlynedd yn ôl fel un o ensemblau Gwasanaeth Ysgolion William Mathias , mae’r G & M yn rhoi cyfle a phrofiad i gerddorion ifanc berfformio gwahanol arddulliau jazz drwy gyfrwng y "big-band". Mae oedran y band yn amrywio o 12 hyd at 20+ oed.
Ymysg eu gorchestion cafwyd perfformiad yn Neuadd y Frenhines Elisabeth ar y South Bank, mewn cyngerdd gyda Band Coleg y Guildhall. 'Roedd y Band hefyd yn flaenllaw yn rhaglen Nadolig S4C yn 2000 gydag Ysgol Glanaethwy. Mae hanes hir i'r Band mewn gwyliau Cerdd yn Llandudno ac Abersoch. Rydym yn edrych ymlaen at ymweliad eto â gŵyl Abersoch yn 2007. Fis Hydref 2004 bu’r Band yn perfformio ar lwyfan Neuadd y Royal Albert yn Llundain yn rhan o gyngerdd y Mil o Leisiau. Bydd y Band yn rhan o gynhyrchiad enfawr ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2005 gan gydweithio gyda Chwmni Theatr Genedlaethol Cymru a Glanaethwy. Ym mis Mehefin 2006 gwelwyd y band ar lwyfan newydd – y tro hwn yn Theatr Hafren (Y Drenewydd) mewn gig a drefnwyd gan Gymdeithas Jazz Cymru. Yn mis Gorffennaf y flwyddyn hon bu’n rhan o ddathliadau deng mlwyddiant GYWM.
Mae'r Band yn cydnabod y manteision o gael enwogion y byd jas i gynnal gweithdai a chadw cyngherddau. Daeth dilyniant o chwaraewyr byd enowg i roi gweithdai i’r chwaraewyr ifanc ac i berfformio gyda nhw, cerddorion megis Mark Nightingale, Julian Arguelles a Huw Warren. Comisiynodd y Band ddarn newydd gan Huw gan roi’r premiere yn 2004. Ym mis Ebrill 2005 daeth y trwmpedwr rhyngwladol Chris Batchelor atyn nhw i roi cyngerdd yn Galeri Caernarfon – lleoliad cyngerdd nodedig arall yn Ebrill 2006 gyda Bosco de Oliveira a noson o Salsa gyda dawnswyr!
Mae'r Band yn awyddus i ymchwilio i gyfleon recordio a darlledu yn dilyn eu cyfraniad i raglen "Brassjas" ar Radio Cymru a’r “Noson Lawen” (Tachwedd 2005). Yn dilyn gwahoddiad oddi wrth y Daily Post, bu’r Band yn cyfeilio i’r carolau yn y Cyngerdd Nadolig Elusennol (2005 a 2006) a recordiwyd gan Gwmni Opws ac a ddarlledwyd o leiaf deirgwaith ym mis Rhagfyr. Rhoddwyd cyfle i’r band i ddarparu trefniannau newydd o garolau cyfarwydd a hynny mewn arddull swing. Ar yr un llwyfan gwelwyd artistiaid megis Bryn Terfel, Rebecca Evans, Côr Serendipity, Llŷr Williams, Bryn Fôn a’r Moniars.
Mae repertoire y Band yn adlewyrchu iddo fod yn big-band o’i genhedlaeth ei hun. Telir teyrnged i draddodiadau'r Big-band clasurol fel Ellington a Basie ond hefyd perfformir cerddoriaeth bop, roc, alawon traddodiadol Cymreig, jazz â dylanwad De Affrica, yn ogystal â cherddoriaeth ffilm, teledu a sioeau cerdd.
Un o brif amcanion y Band yw rhoi cyfle i'r offerynnwyr ifanc i fynegi eu hunain drwy jas a hynny drwy fyrfyfyr – mae’r aelodau i gyd yn barod i roi cynnig arni yn ystod perfformiadau. Rhydd hyn hyder mawr iddynt.